Gan Darcy Kent
Hanner tymor diwethaf, ymwelodd Ameer Davies-Rana ein hysgol a dysgon ni am 1Miliwn, ei fusnes. Mae 1Miliwn yn helpu codi’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn yr ysgolion a chyfryngau fel deledu a Chyfryngau cymdeithasol.
Creodd e ‘workshop’ lle gallod bobl (yn y flwyddyn 10-13) ymarfer siarad ac ysgrifennu Cymraeg- roedd y gwaith yn helpu iawn gyda chyflwyno eich hun, sydd yn bwysig gydag arholiadau TGAU a Lefel-A. Hefyd, roedd y cyflwyniad personol yn helpu gyda chreu vlogs fel Ameer; mae e’n bostio fideos fel vlogs ar Youtube (@Ameer1Miliwn a @HanshS4C).
Aeth Ameer i Ysgol Gymraeg gyda Miss Williams sy’n dysgu llawer o ddisgyblion yn Ysgol Basaleg, ond doedd e ddim yn hoffi siarad Cymraeg (yn wahanol i Miss Williams). Nawr, mae Ameer yn defynyddio’r iaith Gymraeg bob dydd ac eisiau annog pobl eraill i wneud yr un peth. Yn bersonol, hoffwn i weithio mewn Ysgol Gynradd felly mae iaith yn ddefnyddiol, dyma rheswm rydw i’n astudio Cymraeg am Lefel-A.
Diolch Ameer am ymweld â ni a dangos â ni sut gallwn ni defnyddio Cymraeg a bod siarad Gymraeg yn hawdd. Hefyd, bod cydweithio gyda’i gilydd yn creu 1 Miliwn siaradwyr Cymraeg!
Comments